Cronfa Cymunedol Fferm Wynt Wern Ddu
Bydd Cyngor cymuned Betws Gwerfyl Goch yn gweinyddu taliad blynyddol gwirfoddol a geir gan gwmni Triodos Renewables (ac ers 2019 Equitix) (Wern Ddu) Ltd, sef perchnogion fferm Wynt Wern Ddu . Telir yr arian i mewn i gronfa o dan oruchwyliaeth Cyngor Cymuned Betws Gwerfyl Goch er budd trigolion of fewn ffiniau Cyngor Cymuned Betws Gwerfyl Goch. Bydd y cyllid yma ar gael drwy gydol y cyfnod bydd y ffermydd gwynt yn gweithredu a bydd y gyfradd yn newid yn ôl â chwyddiant yn flynyddol. Dyddiad cau y ceisiadau yn flynyddol ydy diwedd Ionawr. Mae ffurfleni cais ar gael gan y clerc (ebost betwsggclerc@gmail.com)